Diwedd y daith..

Allwn ni ddim credu bod y daith bron a gorffen!

Mae’r cast a’r criw yn cael cwpwl o oriau rhwng sioeau pnawn ma cyn neud eu sioe olaf yn Theatr Mwldan, Aberteifi heno am 7.00.  Yna mi fydd y llong yn cael ei bacio am y tro olaf ond un ac yn teithio i Theatr Hafren, Y Drenewydd yn barod am eu sioe Nos Lun am 8.30.  Mae hon wir wedi bod yn daith anhygoel, gyda cast a chriw anhygoel, llond cwch o hwyl, cannoedd o blant yn y gynulleidfa, a chwch trawiadol.. trwm (a dorrodd hanner awr cyn y sioe cyntaf, aaaa!!).

A fuoch chi yn gweld y sioe? Anfonwch eich adborth atom, mi fyddwn yn ddiolchgar iawn.

A chofiwch ddod i’n gweld ni heno yn Aberteifi neu nos Lun yn Y Drenewydd.

Ffarwel am nawr…

Advertisements